Abaty Tyndyrn
Hysbysiad Ymwelwyr
Nid yw ein toiledau i ymwelwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd problem ddŵr allanol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae toiledau cludadwy wedi'u gosod ar y safle ac mae toiledau cyhoeddus ar gael yn y bwthyn lliw hufen y tu ôl i'r lleoedd parcio i fysiau yn y maes parcio. Dilynwch yr arwyddion.
Eglwys Othig Fawr Abaty Tyndyrn
Bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod o amgylch yr eglwys Gothig yn Abaty Tyndyrn o ddydd Llun 8 Ebrill i’n galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y tywodfaen ar waliau uchaf yr eglwys, gan eu bod yn hindreuliedig ac yn malurio. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau ymweld â’r safle gogoneddus hwn. Yn sgil unrhyw darfu, cynigir disgownt o 10% i ymwelwyr oddi ar y pris mynediad.
Arolwg
Campwaith Gothig yn dod yn symbol Rhamantaidd o'r aruchel
Mae Abaty Tyndyrn yn eicon cenedlaethol – ac yn dal i sefyll yn ei ysblander di-do ar lannau Afon Gwy, a hynny bron i 500 mlynedd ers ei gwymp trasig oddi wrth ras.
Fe'i sefydlwyd ym 1131 gan fynachod Sistersaidd, oedd yn hapus i fodloni ar adeiladau pren ar y dechrau. Roedd yr Abad Henry, lleidr diwygiedig, yn fwy enwog am ei arfer o wylo wrth yr allor nag am ei uchelgais bensaernïol.
Codwyd eglwys seml o garreg a chlasau yn ddiweddarach. Ond wedyn, diolch i nawdd arglwyddi cyfoethog y Mers, dechreuodd y mynachod yn eu gynau gwynion anelu’n uwch.
Yn 1269 aethpwyd ati i adeiladu eglwys abadol newydd a ddaethon nhw ddim i ben nes creu un o gampweithiau pensaernïaeth Gothig Prydain. Mae'r ffrynt gorllewinol gwych gyda'i ffenestr saith lansed a bwâu esgynnol corff yr eglwys yn dal i syfrdanu rhywun.
Roedd y mynachod mor ddiolchgar i'w noddwr pwerus, Roger Bigod, fel eu bod yn dal i rannu elusen ar ei ran yn 1535. Ond erbyn hynny roedd Diwygiad Brenin Harri VIII yn Lloegr wedi hen ddechrau.
Flwyddyn yn ddiweddarach yn unig, ildiodd Tyndyrn yn rownd gyntaf diddymiad y mynachlogydd –ac o dipyn i beth dechreuodd yr abaty mawr droi'n adfail mawreddog.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Abaty Tyndry Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!












Amseroedd agor
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–6pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£9.40
|
Teulu* |
£30.20
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£6.50
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.40
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). O ddydd Llun 8 Ebrill, bydd y prisiau a ddangosir yn cynnwys gostyngiad o 10%. Bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod o amgylch yr eglwys Gothig yn Abaty Tyndyrn o ddydd Llun 8 Ebrill i’n galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y tywodfaen ar waliau uchaf yr eglwys, gan eu bod yn hindreuliedig ac yn malurio. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau ymweld â’r safle gogoneddus hwn. |
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£9.00
|
Teulu* |
£28.80
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£6.30
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.10
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). O ddydd Llun 8 Ebrill, bydd y prisiau a ddangosir yn cynnwys gostyngiad o 10%. Bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod o amgylch yr eglwys Gothig yn Abaty Tyndyrn o ddydd Llun 8 Ebrill i’n galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y tywodfaen ar waliau uchaf yr eglwys, gan eu bod yn hindreuliedig ac yn malurio. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau ymweld â’r safle gogoneddus hwn. |
Cyfleusterau
Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae maes parcio mwy a rennir ger mynedfa'r abaty, codir tâl. Mae tua 55 o leoedd gan gynnwys 5 lle penodol i bobl anabl.
Mae lleoedd parcio penodol i fysiau. Mae hefyd faes parcio gorlif â 25 o leoedd, codir tâl.
Maes parcio Talu ac Arddangos – cerdyn yn unig £5 – bydd y ffi am barcio yn cael ei had-dalu wrth dalu am fynediad ac i aelodau Cadw.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Nid yw ein toiledau i ymwelwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd problem ddŵr allanol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae toiledau cludadwy wedi'u gosod ar y safle ac mae toiledau cyhoeddus ar gael yn y bwthyn lliw hufen y tu ôl i'r lleoedd parcio i fysiau yn y maes parcio. Dilynwch yr arwyddion.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Cyfarwyddiadau
Cod post NP16 6SE
what3words: ///cynaeafau.cyfryngau.cylchdroi
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost
TinternAbbey@llyw.cymru
Tyndyrn, NP16 6SE
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 689251
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.