Skip to main content

Ewch yn ôl mewn amser gyda'r Brawd Thomas a dysgwch sut oedd bywyd mynach yn Abaty Tyndyrn.

Bydd ein brawd hoffus yn rhoi gwybodaeth gyfrinachol i chi am ddefodau a chyfrifoldebau'r mynaich.

Fel selerwr Abaty Tyndyrn, bydd y Brawd Thomas (mynach Sistersaidd) yn gallu dweud wrthych chi yr hyn sydd yna i wybod (ac efallai rhai pethau na ddylech eu gwybod!) am drefn yr abaty, ei gyd-fynachod, y brodyr lleyg a phobl eraill 'llai crefyddol'.

Byddwch yn dysgu am fywyd bob dydd y mynaich yn yr abaty, gan gynnwys eu dyletswyddau mynachaidd, hylendid ac arferion bwyta, yn ogystal â'r gwasanaethau crefyddol niferus y byddai'n rhaid iddynt eu mynychu drwy gydol y dydd.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. 


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Gorff 2025
10:30 - 16:30
Sad 02 Awst 2025
10:30 - 16:30
Sad 20 Medi 2025
10:30 - 16:30
Sad 18 Hyd 2025
10:30 - 16:30
Sad 27 Rhag 2025
10:30 - 15:30
Sul 28 Rhag 2025
10:30 - 15:30
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Abaty Tyndyrn