Skip to main content

Er mwyn dathlu bywyd un o noddwyr gorau Abaty Tyndyrn, byddwn ni’n croesawu William Marshal a’i wraig, Isabel, i Dyndyrn i goffâu 801 mlynedd ers ei marwolaeth.

Bydd hanes byw, ail-greu canoloesol, cerddoriaeth ac arddangosfeydd ceffylau yn mynd â’r abaty yn ôl i'w ddyddiau cynharaf, i anrhydeddu bywyd Iarll Marshal a’i gymar dylanwadol - wrth i’r Marchog Gorau ddychwelyd!

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 23 Awst 2025
10:30 - 17:00
Sul 24 Awst 2025
10:30 - 17:00
Llun 25 Awst 2025
10:30 - 17:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.40
Teulu*
£30.20
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£6.50
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.40

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

O ddydd Llun 8 Ebrill, bydd y prisiau a ddangosir yn cynnwys gostyngiad o 10%.

Bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod o amgylch yr eglwys Gothig yn Abaty Tyndyrn o ddydd Llun 8 Ebrill i’n galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y tywodfaen ar waliau uchaf yr eglwys, gan eu bod yn hindreuliedig ac yn malurio. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau ymweld â’r safle gogoneddus hwn.

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Abaty Tyndyrn