Skip to main content

Dysgwch sut oedd gwneud maille traddodiadol yng Nghastell Cas-gwent yr haf hwn!

Dysgwch sut oedd y modrwyau’n cael eu ‘gwehyddu’ gyda’i gilydd, a’r offer a’r technegau traddodiadol oedd eu hangen i greu’r dillad amddiffynnol hyn a wisgwyd gan y rhai oedd yn ddigon dewr i gamu ar faes y gad yn yr Oesoedd Canol.

Bydd ein harbenigwr preswyl wrth law yn sgwrsio’n anffurfiol ac yn arddangos drwy’r dydd. Bydd arfwisgoedd maille o wahanol gyfnodau hanesyddol hefyd yn cael eu harddangos a chewch gyfle i’w gwisgo!


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Maw 22 Gorff 2025
10:00 - 16:00
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Cas-gwent