Skip to main content

Gwisgwch eich esgidiau dawnsio ac ewch i Gastell Cas-gwent y penwythnos hwn wrth i ni ddysgu am esblygiad dawns, o'r farandole canoloesol i ddawnsfeydd llys Ffrainc yn yr 17eg ganrif.

Gydag arddangosiadau a gweithdai lle mae’r gynulleidfa’n cymryd rhan yn digwydd drwy gydol y penwythnos, mae hwn yn ddigwyddiad hwyliog a rhyngweithiol i'r teulu cyfan.

Nid oes angen archebu lle.

Does dim cost ychwanegol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 26 Gorff 2025
10:00 - 16:00
Sul 27 Gorff 2025
10:00 - 16:00
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Cas-gwent