Tŷ Canoloesol Hafoty
Hysbysiad ymwelwyr
Gellir ei gweld o'r tu allan
Arolwg
O bren i faen
Adeilad carreg sylweddol wedi’i beintio’n wyn a welwn o’n blaenau heddiw, ond yn wreiddiol tŷ ffrâm bren oedd yma, a hwnnw wedi’i adeiladu’n fwy na thebyg yn y 14eg ganrif (fe’i cofnodwyd fel Bodiordderch ym 1352).
Cafodd ei orchuddio’n ddiweddarach â charreg a bu’n destun gwaith addasu ac adfer yn y 19eg ganrif a diwedd yr 20fed ganrif, er bod ei gynllun canoloesol yn parhau. Fe’i trosglwyddwyd rhwng dwylo teuluoedd lleol pwysig — Narres a Bulkeley — ac erbyn 1585 fe’i disgrifiwyd yn hafoty.
Amseroedd agor
Gellir ei gweld o'r tu allan
Cyfarwyddiadau
Wedi tua thri chwarter milltir (0.75m) mae lle parcio ar yr ochr dde. Mae’r lle parcio yn agos iawn at fynedfa fferm sydd ar y chwith. Mae’r fynedfa i’r lle parcio yn eithaf garw.