Skip to main content

Arolwg

Tair nodwedd ar un safle sanctaidd pwysig 

Ymestynna hanes Penmon yn ôl i’r 6ed ganrif, pan sefydlwyd mynachlog yma gan Sant Seiriol. Credir bod y ffynnon sanctaidd (sydd â phriodweddau iachau honedig) sy’n dwyn ei enw yn gysylltiedig â’r cyfnod hwn, er bod y ‘gell’ sy’n gartref iddi wedi’i hadeiladu’n llawer diweddarach. Mae olion y priordy sy’n sefyll heddiw yn dyddio i raddau helaeth o’r 13eg ganrif, pan ddaeth yn rhan o’r urdd Awstinaidd.

Y tu mewn i’r eglwys, sy’n dal i wasanaethu’r plwyf heddiw, saif croes drawiadol. Yn dyddio o’r 10fed ganrif, mae ei choes wedi’i cherfio â phatrymau dyrys o rwyllwaith a phlethi.

Mae hefyd yn werth ymweld â Cholomendy Penmon o’r 15fed ganrif, sydd wrth ymyl y priordy. 


Amseroedd agor

Edrychwch ar wefan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol i gael y wybodaeth ddiweddaraf i ymwelwyr

Mae Croes Penmon o fewn yr eglwys a gellir ei gweld pan fydd yr eglwys ar agor.


Cyfleusterau

Maes parcio Talu ac Arddangos icon Dim ysmygu icon Polisi dronau icon

Noder: Rheolir y maes parcio talu ac arddangos gan drydydd parti ac nid oes gan Cadw reolaeth dros weithredu’r tariffau na’r hyd parcio.

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Ewch ymlaen tua milltir ar hyd y ffordd heibio i ganol y cod post tuag at Drwyn Penmon

Cod post LL58 8RW