Hen Eglwys Llangar
Teithiau Tywys
Dewch i ymweld â'r safle hanesyddol hwn fel rhan o'n rhaglen teithiau tywys yr haf.
Mae teithiau ar gael ar ddyddiadau penodol o fis Mai i fis Awst am 11am a 2pm.
Aelodau £10 / Ddim yn aelodau £12
Arolwg
Mae’r ysgrifen ar y mur
Mae gwreiddiau Llangar ar goll yn niwl amser. Ond fe wyddom fod man addoli’n sefyll yma yn yr oesoedd canol. Ymhlith trysorau cudd Cymru, mae’n ysblennydd o arunig uwchben Afon Dyfrdwy. Ond beth sydd mor werthfawr amdano?
Fel Capel y Rug gerllaw, prin y mae Llangar yn awgrymu’r hyn sydd y tu mewn iddo.
Mae ei du allan plaen yn cuddio tu mewn disglair wedi’i addurno â murluniau ysblennydd o’r 14eg a’r 15fed ganrif a ddatgelwyd yn ystod gwaith adfer, yn cyfleu popeth o sgerbwd yn cario gwaywffon i’r Saith Bechod Marwol. Gallwch hefyd edmygu’r hen drawstiau, oriel y clerwyr, seddau caeedig coeth a bedyddfaen carreg.
Amseroedd agor
Cyfleusterau
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Cyfarwyddiadau
Cod post LL21 9BT
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50