Skip to main content

Mae gwreiddiau Llangar ar goll yn niwl amser. 

Ond fe wyddom fod man addoli’n sefyll yma yn yr oesoedd canol. Ymhlith trysorau cudd Cymru, mae’n ysblennydd o arunig uwchben Afon Dyfrdwy. Ond beth sydd mor werthfawr amdano?

Fel Capel y Rug gerllaw, prin y mae Llangar yn awgrymu’r hyn sydd y tu mewn iddo.

Mae ei du allan plaen yn cuddio tu mewn disglair wedi’i addurno â murluniau ysblennydd o’r 14eg a’r 15fed ganrif a ddatgelwyd yn ystod gwaith adfer, yn cyfleu popeth o sgerbwd yn cario gwaywffon i’r Saith Bechod Marwol. Gallwch hefyd edmygu’r hen drawstiau, oriel y clerwyr, seddau caeedig coeth a bedyddfaen carreg. 

Teithiau ar gael am 2pm ar:

Sul 15 Meh, Sad 12 Gorff &  Sul 17 Awst

Teithiau ar gael am 11am / 2pm ar:

Sad 26 Gorff &  Sul 27 Gorff

*Bydd yr hanesydd Richard Suggett yn darparu teithiau tywys o amgylch yr eglwys ar 26 a 27 Gorffennaf am 11am a 2pm. Mae hwn yn ddigwyddiad trwy bartneriaeth Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Archebwch docynnau ar-lein ymlaen llaw (ni fydd tocynnau ar gael i'w prynu wrth gyrraedd).


Prisiau

Tocynnau
Categori Price
Oedolion
£12
Aelod - Ymunwch rŵan
£10

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 12 Gorff 2025
14:00 - 15:00
Sad 26 Gorff 2025
11:00 - 14:00
Sul 27 Gorff 2025
11:00 - 14:00
Sul 17 Awst 2025
14:00 - 15:00
Archebwch
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Hen Eglwys Llangar