Castell Ewloe
Arolwg
Castell o waith llaw brodorion mewn safle coedwig anghonfensiynol
Er ei fod yn rhannu nodweddion nodedig gyda llawer o gestyll Cymru a adeiladwyd gan frodorion, mae lleoliad Ewloe yn ei wneud yn unigryw. Er bod tywysogion Cymru ar y cyfan wedi dewis llecynnau manteisiol uchel ar gyfer eu caerau, eistedda Ewloe mewn pant ymysg trwch o goetir.
Er bod y safle fel petai’n ddelfrydol bellach, arferai’r ffindiroedd hyn fod yn diriogaeth a sbardunai anghytuno mawr, a’r Cymry a’r Saeson yn gwrthdaro yno’n aml.
Oherwydd diffyg cofnodion o’r cyfnod, hanes gweddol frith sydd i’r castell. Mae’n siŵr bod y tŵr carreg siâp-D, sy’n nodweddiadol Gymreig, wedi’i adeiladu gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) rywbryd ar ôl 1210, a’r murlenni a’r tŵr gorllewinol cylchol yn cael eu hychwanegu gan Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) bron 60 mlynedd yn ddiweddarach.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Cyfleusterau
Gall 5 car barcio yn y gilfan.
Ceir mynediad drwy dir fferm, tua 500 metr o ochr y ffordd.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Cod post CH5 3BZ
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50