Skip to main content

Arolwg

Man pererindod poblogaidd hyd heddiw 

Bu’r ffynnon sanctaidd yng Ngwenffrewi yn denu pererinion ers 1115 o leiaf. Dywedir ei bod yn ffrydio o’r man lle daeth yr abad Cymreig Beuno Sant, yn y 7fed ganrif, â’i nith Gwenffrewi yn ôl i fywyd, ond mae’n debygol bod gan y stori hon darddiadau paganaidd, llawer hŷn, mewn gwirionedd. Mae’r capel ei hun yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif. Wedi’i osod yn y llechwedd, mae’n adeilad trawiadol ac anarferol, wedi’i addurno’n fanwl a’i adeiladu’n eithriadol o dda.

Ar y llawr gwaelod, mae dŵr y ffynnon yn ffrydio i fyny i fasn siâp seren o dan nenfwd cromennog coeth cyn llifo allan i bwll awyr agored diweddaraf, lle mae pererinion yn ymweld o hyd i ymdrochi yn ei dyfroedd oherwydd eu priodweddau iachau honedig.

Honnir mai hwn yw’r safle pererindod hynaf yr ymwelir yn barhaus ag ef ym Mhrydain; mae ar lwybr Taith Pererin Gogledd Cymru ar hyd Pen Llŷn i Ynys Enlli, sef ‘Ynys yr 20,000 o Seintiau’ chwedlonol. 


Amseroedd agor

Bob dydd 9am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau am 2pm Ddydd Gwener y Groglith

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 25 a 26 Rhagfyr 


Prisiau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£2.00
Teulu
£3.00
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Myfyrwyr a phlant dan 16
£1.00
Pobl hŷn (Oed 65+)
£1.00

Nid oes tâl mynediad i ymweld â'r capel.

Mae'r capel ar glo. Casglwch yr allwedd oddi wrth y curadur yn y Ganolfan Ymwelwyr. Bydd angen talu blaendal diogelwch y bydd modd ei ddychwelyd.

www.stwinefridesshrine.org


Cyfleusterau

Toiledau hygyrch icon Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Mynediad i bobl anabl icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Toiledau   icon

Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae lleoedd parcio ar gael ar gyfer tua 6 char ac 1 lle parcio penodol i bobl anabl (tua 30 metr).

Ceir mynediad i'r capel drwy fynd i lawr rhes o risiau, ar hyd llwybr gwastad byr ac yna i fyny ychydig o risiau i'r prif ddrws.

Mae mynediad gwastad da i'r ffynnon.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Toiledau ar gael yn y ganolfan ynwelwyr.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Treffynnon, oddi ar yr A55
Rheilffordd
Y Fflint 4m (6.4km)
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 (2.8km/1.8mllr)

Cod post CH8 7PN

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 07542 268722

E-bost
infowellshrine@rcdwxm.org.uk

Cyfeiriad
Capel a Ffynnon Sanctaidd Gwenffrewi
Greenfield Street
Treffynnon
Sir y Fflint
CH8 7PN

www.stwinefridesshrine.org