Skip to main content

Hysbysiad i Ymwelwyr

Lifft Porth y Brenin Castell Caernarfon - ddydd Mawrth 4 Mehefin

Ni fydd lifft Porth y Brenin ar gael ddydd Mawrth, 4 Mehefin oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Er na allwn gadarnhau union hyd y gwaith ar hyn o bryd, rydym yn argymell eich bod yn cynllunio ar y sail na fydd y lifft ar gael, rhag ofn. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: 01286 677 617 / castellcaernarfon@llyw.cymru 

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi ac yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth wrth i ni wneud y gwaith angenrheidiol hwn.


Gellir cyrraedd lefelau uchaf Porth y Brenin trwy lifft neu risiau serth, gan roi mynediad i rannau o'r castell nas gwelwyd yn agos ers canrifoedd.

Sylwer: Os bydd argyfwng, fel tân, dylech fod yn ymwybodol mai dim ond nifer cyfyngedig o unigolion sydd angen cymorth i adael ar frys all fod ym Mhorth y Brenin. Mae'r llwybr gwacáu yn golygu mynd i lawr grisiau troellog cul, anwastad. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol, rydym yn cynghori ymwelwyr a allai fod angen cymorth i adael ar frys i gysylltu â'r castell ymlaen llaw a sicrhau amser wedi’i neilltuo ar gyfer eich ymweliad.

Rhif cyswllt – 01286 677 617 / castellcaernarfon@llyw.cymru 

Lluniaeth yng Nghastell Caernarfon

O 28 Ebrill 2025, bydd ein ciosg dros dro ar agor bob dydd yn gweini diodydd poeth ac oer a lluniaeth ysgafn.

Bydd caffi Porth y Brenin hefyd ar agor ar benwythnosau tan ddiwedd Medi 2025.

Arolwg

Caiff Castell Caernarfon ei gydnabod yn fyd-eang fel un o adeiladau mwyaf godidog y Canol Oesoedd

Dyma gawres o gaer ar lannau Afon Seiont sydd wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd. Ond ar sail ei faint anhygoel a’i bensaernïaeth ddramatig, mae Caernarfon yn sefyll ar ei ben ei hun.  

Yma, aeth Edward a’i bensaer milwrol, Meistr James o St George ati i adeiladu castell, muriau tref a chei tua’r un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd, a chostiodd y cyfan £25,000, cryn ffortiwn ar y pryd.   

Adeiladwyd y castell yn sgil y rhyfel chwerw gyda thywysogion Cymru. Felly roedd rhaid i’r waliau trwchus a Phorth y Brenin allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad. Ond roedd y tyrau polygon, yr eryrod cerrig a’r cerrig amryliw yn cyfleu neges fwy cynnil.

Roeddynt yn adleisio pensaernïaeth Rufeinig imperialaidd, ac yn enwedig muriau  Constantinople. Roeddynt hefyd yn adleisio chwedl Macsen Wledig, a’i freuddwyd am gaer ysblennydd wrth aber afon — ‘y gaer odidocaf a welodd dyn erioed’.  

Felly mae Caernarfon yn gastell o freuddwydion. Yn chwedl a ddaeth yn fyw. Ar ôl 700 mlynedd, mae’n dal i gyffroi’r dychymyg yn ei ffordd unigryw ei hun.  

Sut i ymweld

  • prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
  • gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
  • cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.

Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.

Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Mwy am Gastell Caernarfon


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–6pm 

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–5pm 

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

 


Prisiau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£15.20
Teulu*
£48.70
Person Anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£10.60
Pobl hŷn (Oed 65+)
£13.60

Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir 

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£14.50
Teulu*
£46.40
Person Anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£10.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£13.00

Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir 

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

 


Cyfleusterau

Canllaw mynediad icon Taith sain icon Maes parcio Talu ac Arddangos icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Amgueddfa icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Lluniaeth icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Newid cewynnau icon Cyflwyniad fideo icon Llogi Safle icon Wi-Fi icon Cŵn tywys yn unig icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Caernarfon — Canllaw Mynediad

Mae tywysydd sain ar gael i’w brynu wrth gyrraedd y ganolfan ymwelwyr.

Mae nifer o feysydd parcio yn nhref Caernarfon ac o’i chwmpas, gan gynnwys maes parcio cyhoeddus arhosiad hir ar lannau’r afon, ger y castell.

Mae Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol yn y castell. Mae mynediad iddi’n rhan o bris mynediad y castell.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Mae amgueddfa ar y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

O 28 Ebrill 2025, bydd ein ciosg dros dro ar agor bob dydd yn gweini diodydd poeth ac oer a lluniaeth ysgafn.

Bydd caffi Porth y Brenin hefyd ar agor ar benwythnosau tan ddiwedd Medi 2025.

Caffis a bwytai Cadw

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.

Cŵn tywys yn unig yn y safle.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
A4085, A487(T), B4366.
Rheilffordd
16km/10mllr Bangor, llwybr Crewe-Bangor/Caergybi.
Bws
200m/220llath Caernarfon Pen Llŷn, llwybr Rhif 5/5A/5B, Bangor-Caernarfon.
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr.

Cod post LL55 2AY

what3words: ///cyson.wythnosau.bagiau

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
castellcaernarfon@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Caernarfon
Castle Ditch, Caernarfon LL55 2AY

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 689251
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.