Skip to main content

Ymunwch â'n ceidwaid ar gyfer taith gerdded 45 munud o amgylch Castell Caernarfon a darganfod hanes y safle Treftadaeth y Byd UNESCO hwn. 

Mae hon yn daith ragarweiniol sy'n ategu ac yn adeiladu ar y wybodaeth sydd ar y safle, gan ddefnyddio’r elfennau niferus o hanes sydd yma i ddatgelu cyfrinachau a straeon y gaer ganoloesol drawiadol a mawreddog hon.

Bydd y llwybr taith arferol yn cynnwys ychydig o risiau. (Ar gyfer dewisiadau amgen hygyrch neu am unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch â'r wefan yn uniongyrchol).

Teithiau am 11am, 3pm.

Teithiau £5 y pen yn ogystal â mynediad arferol - y cyntaf i’r felin gaiff falu yw hi o ran archebu lle.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Iau 19 Meh 2025
11:00 - 11:45
15:00 - 15:45
Iau 04 Medi 2025
11:00 - 11:45
15:00 - 15:45
Iau 18 Medi 2025
11:00 - 11:45
15:00 - 15:45
Iau 02 Hyd 2025
11:00 - 11:45
15:00 - 15:45
Iau 16 Hyd 2025
11:00 - 11:45
15:00 - 15:45
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Caernarfon