Skip to main content

Hysbysiad Ymwelwyr

Mae'r cyfyngiad dros dro ar hyd muriau tref Conwy o'r Tŵr Gwylio i lawr i Borth yr Adain wedi galluogi ein harbenigwyr cadwraeth – gan weithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr cadwraeth – i asesu'n drylwyr yr angen i wella mynediad i ymwelwyr i'r rhan amlwg hon o’r Safle Treftadaeth y Byd.

Mae Cadw wedi ymrwymo i ehangu mynediad i'w safleoedd hanesyddol ac mae ein gwaith ar furiau tref Conwy yn cynnwys rheiliau mwy cadarn a phaneli rhwyll amddiffynnol i roi profiad mwy diogel i ymwelwyr.

Mae angen cyflwyno cais am Gydsyniad Heneb Gofrestredig cyn y gall unrhyw waith ddechrau ar heneb hanesyddol. Ceir craffu gofalus iawn ar y ceisiadau hyn cyn y rhoddir caniatâd i fwrw ymlaen.

Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei wneud ar ddiwedd y flwyddyn hon gyda'r muriau’n ailagor yn llawn ar gyfer Pasg 2026.
 

Safle Treftadaeth y Byd

Arolwg

Troedio waliau Safle Treftadaeth y Byd 

Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares, Harlech ac yma yng Nghonwy, mae’r muriau trefol hyn ymhlith y ceinaf a’r mwyaf cyflawn yn Ewrop. Ymestynnant yn ddi-dor bron o gwmpas canol canoloesol Conwy, a hynny am dri chwarter milltir, gyda 21 o dyrau a thri phorth gwreiddiol ar eu hyd. Os nad oes ofn uchder arnoch, gallwch fynd am dro ar ben y wal wrth iddi ddolennu o gwmpas strydoedd canoloesol cyfyng Conwy.

Hon yw’r sioe orau am ddim yn y dref, ac mae’n brofiad cyffrous sy’n tanlinellu pur faint y darn godidog hwn o adeiladwaith canoloesol, yn ogystal â chynnig golygfeydd ysblennydd o Gastell Conwy aruchel, y foryd ac Eryri.

Yn ddiweddar (ers mis Ebrill 2025) mae Cadw wedi cymryd  ‘Y Croeshoeliad a Ffordd y Groes yn Eglwys Gatholig Sant Mihangel’, sydd wedi’i lleoli oddi ar Rosemary Lane, i Ofal y Wladwriaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y paneli ar gael yn adroddiad rhestru Cadw.


Amseroedd agor


Cyfleusterau

Maes parcio Talu ac Arddangos icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
Conwy ar hyd yr A55 neu’r B5106. Mae’r muriau i’r G ac i’r Gn o’r castell, ac yn amgáu llawer o’r dref.
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 (150m/164 llath).