Skip to main content

Arolwg

Diod i’r esgob

Ni allasai bywyd fod mor anodd â hynny i esgobion canoloesol Tyddewi. Byddai’r dynion bydol, cyfoethog, dylanwadol hyn yn mwynhau eu cysuron cartref — fel y gwelwch pan grwydrwch o gwmpas tiroedd gwych Llandyfái, a oedd yn bennaf yn ffrwyth gwaith y dynamig Henry de Gower, esgob Tyddewi o 1328 i 1347. Defnyddiai’r esgobion Landyfái yn encilfa wledig, yn ddihangfa rhag beichiau’r Eglwys a’r Wladwriaeth.

Er nad yw’n bell iawn o Dyddewi ei hun, roedd yn newid byd i fywyd syml, caeth ‘Dewi’r Yfwr Dŵr’, Dewi Sant, nawddsant Cymru, a fu fyw lawer o ganrifoedd ynghynt. Buasai’r preladiaid canoloesol yn byw bywydau breintiedig bonheddwyr gwledig, gan fwynhau moethau llety preifat, neuadd fawr grand, siambr llawr cyntaf, pyllau pysgod, perllannau ffrwythau, gerddi llysiau a pharc 144 erw / 58ha.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mae’r canolfan ynmwelwyr ar gau. Mynedfa i’r heneb trwy’r giât ochr.


Cyfleusterau

Maes parcio icon Mynediad i bobl anabl icon Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Llogi Safle icon

Mae cilfan ar draws y ffordd i'r Llys, mae lleoedd parcio i hyd at tua 15 o geir.

Ceir mynediad i'r tir drwy'r giât ar y ochr. Mae llôn wedi'i graeanu ar ochr y llys yn arwain at y giât. Mae ramp sy'n arwain o'r giât gefn i'r tir.

Dim ond cerddwyr sy'n cael mynediad i bob lefel o'r safle.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
A4139 o Benfro neu Ddinbych-y-pysgod.
Rheilffordd
Llandyfái 600m/660llath, llwybr Abertawe-Caerfyrddin/ Dinbych-y-pysgod/ Doc Penfro.
Bws
600m/660llath, llwybr Rhif 349/359, Dinbych-y-pysgod-Llandyfái/ Penfro/Hwlffordd.
Beic
RBC Llwybr Rhif 4 (200m/219llath).

Cod post SA71 5NT

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50