Eglwys y Brodyr, Dinbych
Arolwg
Adfail o anheddiad crefyddol a loriwyd gan Harri VIII
Sylfaenwyd Brodordy Dinbych gan Garmeliaid (neu’r Brodyr Gwynion) yn y 13eg ganrif, ac roedd yn fan addoli i ddynion duwiol a phobl leyg anordeiniedig. Yn ystod gwasanaethau byddai'r gynulleidfa'n cael ei rhannu, y brodyr mewn seddau côr addurnedig ar yr ochr ddwyreiniol a'r lleygwyr mewn man ar wahân i'r gorllewin.
Darostyngwyd y Brodordy o dan orchmynion Harri VIII ym 1538 a’r cyfan sy’n weddill heddiw yw waliau’r eglwys. Ers ei ddiddymu, canfu’r eglwys nifer o ddefnyddiau eraill, gan gynnwys annedd, storfa wlân a bragdy.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Cyfleusterau
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.