Skip to main content

Arolwg

 Eglwys brau pentref hirgoll 

Ar ei ben ei hun mewn cae, ffigwr unig iawn erbyn hyn yw Eglwys Runston heb do ar ei ben. Fodd bynnag, pan gafodd ei adeiladu tua dechrau’r 12fed ganrif, roedd yn rhan o bentref hynafol Runston, anheddiad bychan o ryw 20 o dai a fodolai mor gynnar â’r 10fed ganrif. Erbyn hyn, nid yw’r pentref yn ddim mwy nag ychydig dwmpau bwganaidd yn y ddaear, ond mae’r capel yn ei orchudd iorwg yn dal i gadw ei gorff a’i fwa perffaith o gôr.


Amseroedd agor


Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
1m (1.6km) i’r Gog. Ddwy. o Grug, 3m (4.8km) i’r De Orll. o Gas-gwent, oddi ar yr A48.
Rheilffordd
Caldicot 4m (6.4km).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.