Castell Cilgerran
Teithiau Tywys
Dewch i ymweld â'r safle hanesyddol hwn fel rhan o'n rhaglen teithiau tywys yr haf.
Mae teithiau ar gael ar ddyddiadau penodol o fis Mai i fis Awst am 11am a 2pm.
Aelodau £10 / Ddim yn aelodau £12
Dysgwch fwy ac archebwch docynnau
Hysbysiad Ymwelwyr
Gall tyrau'r castell gael eu cau ar fyr rybudd oherwydd tywydd garw / pryderon Iechyd a Diogelwch. Ymddiheurwn ymlaen llaw os byddwch yn ymweld a’u bod nhw dan glo.
Arolwg
Castell ysblennydd nad oedd mor ddiogel ag y gobeithiai’r Normaniaid
Safle Castell Cilgerran yw un o’r mwyaf ysblennydd yng Nghymru. Daw ei ddau dŵr crwn mawr i’r amlwg fry uwchben ceunant dwfn Afon Teifi a nant gyflym Plysgog.
Hawdd fuasai meddwl mai hwn oedd y llecyn perffaith i’r Eingl-Normaniaid amddiffyn y tiroedd yr oeddent newydd eu goresgyn. Cerddwch y llwybr gwefreiddiol ar hyd y wal o’r tŵr dwyreiniol i ddeall yn union mor frawychus oedd y lle, mae’n rhaid, i rwystro llywodraethwyr teyrnas hynafol Deheubarth.
Ond nid oedd yn ddigon cadarn, wedi’r cyfan. Mae’n siŵr mai castell ‘cylchfur’ a godwyd yma gyntaf ym 1108 gan yr anturiwr Normanaidd, Gerald de Windsor, ac yna newidiodd Cilgerran ddwylo lawer o weithiau dros y ganrif nesaf neu ragor.
Nid oedd rheolaeth y Normaniaid yn sefyll yn gadarn tan 1223, pan adeiladodd iarll nwyfus Penfro, William Marshal, ‘gastell addurnedig o forter a cherrig’ ar ben y safle gwreiddiol. Er bod Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndŵr wedi gwneud eu gorau glas, ni chwympodd Cilgerran byth eto i’r Cymry.
Castell Cilgerran Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Cyfleusterau
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Cyfarwyddiadau
Cod post SA43 2SF
what3words: ///atyniadau.tywylla.graddiant
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost
cadw@tfw.wales
Aberteifi SA43 2SF
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.