Castell Abertawe
Arolwg
Olion trefol caer nerthol ers talwm
Er bod ychydig olion Castell Abertawe wedi’u caethiwo bellach gan ganol y ddinas fodern hon, arferai fod yma gaer o gryn bwys strategol. Erbyn hyn, anodd yw dychmygu ei leoliad gwreiddiol ar ben clogwyn uwchlaw lle arferai Afon Tawe lifo, gan reoli harbwr a llwybr pwysig rhwng y dwyrain a’r gorllewin ar hyd de Cymru. Er bu yma gastell ers dechrau’r 12fed ganrif o leiaf, mae’r olion sydd yno heddiw’n dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif.
Y nodwedd fwyaf trawiadol yw’r paraped arcaded nodedig ar y bloc deheuol, sy’n rhyfeddol o debyg i’r rheini yn y llysoedd esgobion yn Nhyddewi a Llandyfái.
Bu’r llanc lleol Dylan Thomas yn gweithio yn ohebydd ifanc mewn swyddfeydd papur newydd (sydd wedi’u dymchwel bellach) ar safle’r castell.
Amseroedd agor
Gellir ei weld o'r tu allan
Cyfleusterau
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.