Skip to main content

Arolwg

Allbost milwrol gogleddol mewn man arfordirol strategol 

Yn dyddio’n ôl i’r 3edd ganrif, mae safle Caergybi ar glogwyni isel uwchben y môr yn awgrymu y bu’n rhan o rwydwaith arfordirol o amddiffynfeydd, wedi’i gysylltu o bosib â’r wylfa Rufeinig hwyr yng Nghaer y Tŵr ar gopa Mynydd y Tŵr. Mae waliau’r gaer betryalog hon mewn cyflwr da iawn, gan sefyll hyd at 13 troedfedd / 4m o uchder a 5 troedfedd / 1.5m o drwch. Gallwch hefyd weld olion pedwar tŵr cornel. Mewn man manteisiol uwchlaw’r harbwr, tŵr y gogledd-ddwyrain sy’n 26 troedfedd /7.9m yw’r amlycaf, er bod y darn brig yn ddarn a ailadeiladwyd yn ddiweddarach sy’n dyddio efallai o’r cyfnod canoloesol.                         


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Maes parcio Talu ac Arddangos icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
Yng Nghaergybi, yn edrych dros yr harbwr, oddi ar yr A5.
Rheilffordd
Caergybi
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 (700m/765 llath).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.