Amffitheatr Rufeinig Caerllion
Arolwg
Adloniant Rhufeinig gwaedlyd ynghyd â chwedl Arthur
Wedi’i hadeiladu tua 90 OC i adlonni’r llengfilwyr a wasanaethai yng Nghaerllion (Isca), yr amffitheatr drawiadol hon oedd ateb y Rhufeiniaid i’r sinema aml-sgrin a gawn heddiw. Roedd meinciau pren yn cynnig seddi i hyd at 6,000 o wylwyr, a fyddai’n ymgasglu i wylio arddangosiadau gwaetgar yn cynnwys gornestau gladiatoraidd ac anifeiliaid gwyllt egsotig.
Yn hir ar ôl i’r Rhufeiniaid ymadael, cafodd yr amffitheatr ail wynt yn chwedl Arthur. Ysgrifennodd Sieffre o Fynwy, yr ysgolhaig go ddychmygus o’r 12fed ganrif, yn ei History of the Kings of Britain fod Arthur wedi’i goroni yng Nghaerllion ac mai gweddillion Bord Gron Brenin Arthur mewn gwirionedd yw adfail yr amffitheatr.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
*Oherwydd yr amodau tywydd gwael yr adeg hon o’r flwyddyn, bydd angen inni gau Amffitheatr Caerllion yn aml i ddiogelu ymwelwyr a’r heneb.
Cyfleusterau
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.