Skip to main content

Ymunwch â Chymdeithas Seryddol Brynbuga gyda Phlanetariwm arloesol Bannau Brycheiniog, am daith ryfeddol, ymdrochol, o amgylch cysawd yr haul.  

Cewch eich syfrdanu gan yr olygfa o'r Llwybr Llaethog a'r cytserau o'r gofod. 

Bydd y Planetariwm i fyny'r grisiau yn y tŷ, felly bydd angen defnyddio’r grisiau i’w gyrraedd. 

Cynhelir sioeau trwy gydol y dydd - am 10.30am, 11.15am, 12pm, 1.15pm, 2pm a 2.45pm (20 tocyn y sesiwn).

Archebwch ar-lein i gadw eich lle, er bod tocynnau ar gyfer y Planetariwm wedi'u cynnwys yn y pris mynediad.  

Digwyddiad yn addas i rai 5 oed a hŷn.  

D.S. Nid oes angen i chi archebu os ydych am ymweld â'r safle ar y dyddiadau hyn ond nad ydych yn dymuno ymweld â'r Planetariwm.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Iau 07 Awst 2025
10:30 - 16:15
Iau 14 Awst 2025
10:30 - 16:15
Iau 21 Awst 2025
10:30 - 16:15
Iau 28 Awst 2025
10:30 - 16:15
Archebwch
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Llys a Chastell Tretŵr