Skip to main content

Gwahoddwn ni chi i Gastell Dinbych i gymryd rhan yn ein Penwythnos Ailddeddfiad Canoloesol dros Ŵyl y Bank. 

Mi fydd yno gyfle i brofi eich sgiliau wrth drio saethyddiaeth ac i wella eich celfyddwaith gyda hyfforddiant yswain (I blant yn unig). 
Fydd Teulu’r Tywysog yn dangos sut mae paratoi marchog ar gyfer y frwydr a fydd yn dechrau tua diwedd y dydd. 
Mae’r ailddeddfwyr yn llawn gwybodaeth ac yn hapus iawn i siarad hefo chi am sut y byddai bywyd wedi bod yn y Castell yn ystod y Canoloesoedd.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Gwen 22 Awst 2025
10:00 - 16:00
Sad 23 Awst 2025
10:00 - 16:00
Sul 24 Awst 2025
10:00 - 16:00
Llun 25 Awst 2025
10:00 - 16:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£6.50
Teulu*
£20.70
Person Anabl a Chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£4.50
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Dinbych