Skip to main content

Gwrandewch ar hen chwedlau Cymru, straeon a oedd yn hen cyn hyd yn oed meddwl am adeiladu Castell Cricieth.

Dyma chwedlau’r hen Gymru: straeon am gewri, morynion, dewiniaid a dreigiau - y math o straeon sydd bob amser yn dechrau ag 'Amser maith yn ôl' yn Gymraeg, neu 'Once upon a time...' yn Saesneg.

Bydd y straeon yn cael eu hadrodd yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn addas ar gyfer pob oedran, o 4 i 104!

Amseroedd y sesiynau: 10.30, 11.30, 1.30, 2.30, 3.30 (mae'r sesiynau'n para 20-30 munud)

Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Codir y pris mynediad arferol, dim byd ychwanegol i'w dalu.

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Iau 24 Gorff 2025
10:30 - 16:00
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Cricieth