Skip to main content

Dewch i weld Castell Biwmares yn cael ei gludo’n ôl i’r Oesoedd Canol, lle bydd marchogion, arglwyddi ac arglwyddesau, cerddorion a chellweiriwyr yn mynd â chi’n ôl i weld sut beth oedd bywyd yng Nghymru yn y cyfnod hwn.

Profwch fywyd yr Oesoedd Canol ar ei orau. Ymwelwch â’r gwersyll canoloesol, dysgwch sut i wneud saethau, gwaith lledr, coginio canoloesol, arfau, gemau a mwy.

Bydd yna arddangosiadau am arfwisgoedd a sut i’w gwisgo, a sut y defnyddid arfau yn erbyn marchogion a’u gwisgai. Bydd yna hefyd arddangosiadau sy’n dangos sut yr ofnid saethwyr ar faes y gad, gyda chyfle i ddysgu sut i saethu marchog, a bydd yna hefyd arddangosiad am ddillad, a sut y câi ei ddefnyddio i ddangos braint a chyfoeth.

Cadwch lygad allan am ddienyddiwr y castell, gyda’i straeon ofnadwy am arteithio ac enghreifftiau o offer a ddefnyddid yn ôl yn nyddiau tywyll cosbau canoloesol.

Gwyliwch farchogion yn hyfforddi yn yr arena brwydro, a byddwch yn barod am frwydr. Cadwch lygad allan hefyd am y saethwr meddw.

Ymunwch â hyfforddiant dril a’r Ysgol Marchogion ar gyfer yr hen a’r ifanc.

A bydd cellweiriwr y castell yno i’ch difyrru gyda’i jôcs doniol a’i driciau peryglus.

Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda brwydr fawr rhwng Gerard de Rhodes a’r Capten Nicholas Horton, gyda'u dynion a'u saethwyr. Fydd pethau ddim yn mynd yn dda i’r Capten Horton, a bydd angen iddo recriwtio mwy o farchogion o'r dorf! Bydd plant tair ar ddeg oed ac iau yn cael eu gwahodd i ymuno â rhengoedd y Capten i helpu i drechu Syr Gerard a'i farchogion.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 23 Awst 2025
10:00 - 17:00
Sul 24 Awst 2025
10:00 - 17:00
Llun 25 Awst 2025
10:00 - 17:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£10.50
Teulu*
£33.60
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£7.30
Pobl hŷn (65+)
£9.40

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Biwmares