Skip to main content

Mae ffuredau wedi cael eu defnyddio mewn helfeydd ers yr hen ddyddiau.

Daethon nhw’n fwyfwy dof a thyfu mewn poblogrwydd yn ystod yr Oesoedd Canol, yn enwedig ymhlith aelodau o’r teulu brenhinol ac uchelwyr. Dewch i wylio’r creaduriaid chwim, ystwyth hyn wrth iddyn nhw rasio ei gilydd o amgylch y castell.

Hefyd, dewch i weld yr adar ysglyfaethus niferus yn hedfan ac yn gorffwys - o gyflymder yr hebog tramor chwim i sgiliau hedfan rhyfeddol y barcud coch, y dylluan hoffus a mwy.  Bydd eu hyfforddwyr gwybodus wrth law i ateb cwestiynau ac i siarad am yr adar godidog hyn.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Iau 28 Awst 2025
11:00 - 16:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£6.50
Teulu*
£20.70
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£4.50
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Rhuddlan