Skip to main content

Ymunwch ag Erwyd le Fol, Cellweiriwr Conwy, yng Nghastell Conwy bob dydd Mercher yn ystod gwyliau haf yr ysgol am ychydig o hwyl canoloesol i'r teulu.

Bydd cellweiriwr preswyl Conwy, Erwyd le Fol, yn dychwelyd i'r castell yr haf hwn gyda’i sioe. Erwyd yw'r cellweiriwr sydd wedi gwasanaethu hiraf yn hanes y dref ac mae ei gyfuniad o jyglo a chomedi yn sicr o ddiddanu cynulleidfaoedd o bob oed.

Yn ymuno ag Erwyd eleni, bydd y bardd ei hun, Cyfarwydd Cymru, Storïwr Cymru a fydd yn eich difyrru â hanesion hynafol dreigiau, tylwyth teg a chreaduriaid hudolus Cymru sydd bellach wedi’u hen anghofio.

Wrth i chi archwilio tyrau'r castell fe welwch ein dewin, Jay Gatling. Mae wastad tric neu ddau yn barod ganddo i’ch rhyfeddu. Peidiwch â cholli’r sioe hon.

Mae ein gweithdy hudlath hefyd o fewn y castell. Yma gall tywysogion, tywysogesau, marchogion, a dewiniaid ifanc greu eu hudlath eu hunain i fynd adref gyda nhw.

Y tu allan fe welwch ein gweithdy sgiliau cellweiriwr lle gallwch roi cynnig ar jyglo, troelli platiau, hwla hwpio, cerdded ar stilts, a llawer mwy. Ac ar gyfer y bobl ifanc hynny sy'n dymuno hyfforddi i amddiffyn y castell, gallwch roi cynnig ar ein maes saethyddiaeth sy'n addas i blant.

Nid yw'r haf yng Nghastell Conwy erioed wedi bod cystal.

 


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Mer 23 Gorff 2025
10:00 - 16:00
Mer 30 Gorff 2025
10:00 - 16:00
Mer 06 Awst 2025
10:00 - 16:00
Mer 13 Awst 2025
10:00 - 16:00
Mer 20 Awst 2025
10:00 - 16:00
Mer 27 Awst 2025
10:00 - 16:00
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Conwy