Skip to main content
Baddondy Rhufeinig Caerllion
Wedi ei gyhoeddi

Mae chwe gwirfoddolwr lleol wedi cael eu penodi yn Eiriolwyr Cymunedol Caerllion ar gyfer Caerllion Rufeinig – Gweithio mewn Partneriaeth. 

Mae Amgueddfa Cymru, Cadw a Chyngor Dinas Casnewydd yn falch o gydweithio i wneud y mwyaf o botensial treftadaeth Rufeinig Caerllion er budd y gymuned ac ymwelwyr, ac yn croesawu'r Eiriolwyr newydd i'r tîm yn gynnes. 

Mae rôl yr Eiriolwyr yn allweddol am eu bod yn gweithio'n agos â'r bartneriaeth er mwyn sicrhau y bydd lleisiau'r gymuned yn parhau i lywio'r cynlluniau ar gyfer adfywio Caerllion Rufeinig er budd pawb. 

Bydd yr Eiriolwyr yn rhoi lleisiau'r gymuned wrth wraidd y 'bartneriaeth'. Dewiswyd chwe Eiriolwr, dau yn fwy nag oedd y 'bartneriaeth' yn bwriadu eu dewis, sy'n dangos ystod y sgiliau a'r brwdfrydedd a ddaeth i'r amlwg.

Dewiswyd Brett Childs, Harry Weeks a Huw Wilkinson yn Eiriolwyr ar gyfer y Bwrdd Llywodraethu, a cafodd Justine Desmond, Cheri Hughes a Neil Pollard eu dewis yn Eiriolwyr ar gyfer y Grŵp Llywio. Bydd y rolau hyn yn para blwyddyn, gyda phosibilrwydd o ymestyn am ddwy neu dair blynedd yn ddibynnol ar gyllid ac adolygiad.

Hyd yn hyn, mae'r 'bartneriaeth' wedi bod yn gweithio ar gynllun i greu arlwy cyffrous yn y dyfodol ar gyfer Caerllion Rufeinig, a bydd yr Eiriolwyr yn sicrhau y bydd safbwyntiau lleol yn cael eu cynnwys wrth:

  • orffen llunio gweledigaeth newydd ar gyfer arlwy treftadaeth a thwristiaeth Caerllion
  • archwilio ffyrdd o wella'r profiad ar draws y safleoedd Rhufeinig a safleoedd hanesyddol eraill
  • siapio a dethol y dewisiadau fydd yn cyrraedd y cam cynllunio manwl, a gobeithio, yn cael eu gwireddu.

Dros y 18 mis nesaf, bydd cyfleoedd i ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid er mwyn i bobl gael cymryd rhan a rhannu'u syniadau. Mae'r Eiriolwyr hefyd yn datblygu syniadau ar gyfer rhaglen o ddigwyddiadau lleol gyda'r nod o ddathlu hanes a threftadaeth Caerllion a chodi ymwybyddiaeth o'r project.

Ar ôl i'r cam cyntaf hwn ddod i ben, bwriad y 'bartneriaeth' yw ceisio am nawdd ar gyfer project mwy uchelgeisiol fydd yn cychwyn y gwaith o wireddu'r weledigaeth newydd 

Meddai'r Eiriolwr Brett Childs: "Mae’n gyffrous i fod yn rhan o broject Caerllion Rufeinig – Gweithio mewn Partneriaeth er mwyn rhoi Caerllion ar y map. Dwi'n awyddus i gyfrannu fy arbenigedd a syniadau fy hun at y Bwrdd Llywodraethu a chefnogi gweddill Eiriolwr Cymunedol Caerllion i roi lleisiau'r gymuned wrth wraidd cynnig twristaidd Caerllion."

I gael rhagor o wybodaeth am broject Caerllion Rufeinig – Gweithio mewn Partneriaeth, e-bostiwch Dai.Price@amgueddfacymru.ac.uk.

I gysylltu ag Eiriolwyr Cymunedol Caerllion, e-bostiwch Cymuned.Caerllion@amgueddfacymru.ac.uk  Caerleon.Community@museumwales.ac.uk